Y Cyflwr Genidol

 

Rhoddir yr enw yn y cyflwr genidol mewn nifer o gyd-destunau:

 

1. Pan ddaw dau enw mewn cyswllt clos. Gellir cyfleu nifer o bethau fel hyn. Un o’r amlycaf (a’r hawsaf ei ddeall) yw perchnogaeth neu feddiant. Byddai’r geiriau mewn italig trwm yma yn y cyflwr genidol yn y Wyddeleg:

 

het y plismon

hen ffon fy nain

llyfr Mair

dillad y plant

 

Er nad meddiant llythrennol sydd yn yr enghreifftiau a ganlyn, defnyddir y genidol yma eto:

 

Merched y Wawr

hanes Iwerddon

cyfnither ei gŵr

copa’r mynydd

llywydd y blaid

dechrau’r flwyddyn

canol y mis

blas y bwyd

bwrdd y gegin

 

Gellir hefyd gyfleu perthynas o fathau gwahanol rhwng y ddau enw, megis gwneuthuriad, cynnwys, math, deunydd:

 

esgidiau lledr

melin flawd

bocs glo

cyflog wythnos

tegan pren

 

2. Pan fo enw yn dilyn berfenw:

 

torri coed

bwrw glaw

darllen y llyfr

 

3. Pan fo’r enw yn dilyn arddodiad cyfansawdd (h.y. ac iddo ddwy elfen), e.e. ar feadh (am, ar hyd), i lár (ynghanol), le linn (yn ystod)

ac ambell arddodiad syml: chun (at/i), timpeall (o gwmpas), trasna (ar draws), fearacht (fel), cois (gerllaw), dála (ynghylch):

 

ar feadh seachtaine am wythnos
le linn na féile yn ystod yr ŵyl
dul chun na Fraince mynd i Ffrainc

 

4. Pan ddaw enw ar ôl rhai geiriau sy’n dynodi swm neu faint neu nifer, e.e.

 

 
Ystyr
Ymadrodd
a lán
llawer
a lán ama
beagán
ychydig
beagán oibre
beirt
dau
beirt fhear
cuid
rhai
cuid leabhar
dóthain
digon
dóthain dí
go leor
digon
go leor airgid
leath
hanner
leath lae
níos mó
mwy
níos mó fíona
pionta
peint
pionta beorach
píosa
darn
píosa seacláide
roinnt
rhai
roinnt daoine
scór
ugain
scór tithe
tuilleadh
mwy
tuilleadh eolais

 

Gwanhau mae’r ffurf enidol yn yr iaith lafar, ac felly ni ddylech synnu os na chlywch y ffurfiau ‘cywir’ bob amser. Yn yr iaith ysgrifenedig, sut bynnag, cedwir at y ffurfiau traddodiadol.