Dyma lyfr ymadroddion Lexicelt lle medrwch weld, clywed ac ymarfer y Wyddeleg, a pharatoi ar gyfer taith i Iwerddon.

Dewiswch thema o’r rhestr ar y chwith. Byddwch yn darganfod cannoedd o ymadroddion Gwyddeleg y mae modd gwrando arnynt trwy glicio ar yr eicon seinydd. I’ch cynorthwyo i’w cofio gallwch guddio’r ymadroddion gwreiddiol neu’r cyfieithiad Cymraeg.

Byddwch hefyd yn darganfod gwybodaeth am ddiwylliant Iwerddon a chysylltiadau â gwefannau perthnasol eraill.

Ar y dde mae rhestr o eiriau defnyddiol a’u cyfieithiadau. Gellwch newid thema’r eirfa drwy’r ddewislen raeadru, a hynny’n annibynnol o’r brif thema sydd wedi ei dewis.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ysgrifennwch at gwybodaeth@lexicelt.org os gwelwch yn dda.

Mwynhewch! – Bain sult as!

Amdanom ni

Crewyd y Geiriadur a’r Llyfr Ymadroddion hwn gan Uned Technolegau Iaith, Cangolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor yng Nghymru ar y cyd gydag Adran y Gymraeg (sydd bellach yn rhan o Ysgol y Wyddeleg, Astudiaethau Celtaidd, Llên Gwerin a Ieithyddiaeth) Coleg Prifysgol Dulyn, gyda chymorth grant oddi wrth Interreg IIIA.

Tîm y project

CYMRU

Prif Olygydd:
Delyth Prys

Datblygwyr y wefan:
Dewi Jones
Briony Williams
Ambrose Choy
Gruffudd Prys

IWERDDON

Prif Olygydd:
Dewi Evans

Golygyddion cynorthwyol:
Hunydd Andrews
Tegau Andrews

Diolchiadau

Hoffai tîm LEXICELT ddiolch i bawb a’n cefnogodd ac a’n cynorthwyodd i greu’r wefan hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r bobl ganlynol:

Micheál Ó Murchú (Prifysgol Ulster), Áine Ní Bhriain ac Elaine Uí Dhonnchadha (Coleg y Drindod, Dulyn), y prawf ddarllenwyr ac, wrth gwrs, y siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg sydd i’w clywed ar y wefan. Diolch yn fawr iawn!